Job 7

Job yn cwyno fod bywyd yn galed

1Pam mae bywyd dyn ar y ddaear mor galed?
Mae ei ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog –
2fel caethwas yn dyheu am gysgod,
neu was cyflog yn disgwyl am ei dâl.
3Mis ar ôl mis o fyw dibwrpas,
a nosweithiau diddiwedd o dristwch.
4Pan dw i'n gorwedd i lawr, dw i'n meddwl,
‘Pryd dw i'n mynd i fedru codi?’
Mae'r nos yn llusgo'n araf,
a dw i'n troi a throsi nes iddi wawrio.
5Mae briwiau a chrachod dros fy nghorff i gyd;
mae'r croen wedi cracio ac yn casglu.
6Mae dyddiau fy mywyd wedi hedfan fel gwennol gwehydd,
ac yn dod i ben mewn anobaith.
7O Dduw, cofia mai anadl ydy fy mywyd!
Wna i ddim profi pleser byth eto.
8Fydd y llygaid sy'n edrych arna i yn fy ngweld i ddim mwy;
bydda i wedi diflannu mewn chwinciad.
9Fel cwmwl yn chwalu ac yn diflannu,
dydy'r un sy'n mynd i'r bedd byth yn dod yn ôl i fyny;
10fydd e byth yn mynd adre eto;
a fydd y lle roedd yn byw ddim yn ei gofio.
11Felly, dw i ddim am gadw'n dawel!
dw i'n mynd i rannu fy ngwewyr meddwl;
dw i'n teimlo'n chwerw, a dw i'n mynd i gwyno.
12Ai'r môr ydw i, neu anghenfil y dyfroedd,
7:12 môr … anghenfil y dyfroedd Mae "anghenfil y dyfroedd" yn cyfieithu'r gair Hebraeg  Tannin, oedd yn anghenfil tebyg i Lefiathan (3:8), Rahab (9:13), a Behemoth (40:15). Yn ôl 38:8-11, mae Duw yn cadw'r môr yn gaeth drwy osod ffiniau iddo.

i ti orfod fy nghadw yn gaeth?
13Pan dw i'n meddwl, ‘Bydd mynd i'r gwely'n gysur,
a gorffwys yn gwneud i mi deimlo'n well,’
14ti'n fy nychryn â breuddwydion,
ac yn codi braw â hunllefau.
15Byddai'n well gen i gael fy stranglo;
mae marwolaeth yn well na bodolaeth.
16Dw i wedi cael llond bol,
does gen i ddim eisiau byw ddim mwy;
Gad lonydd i mi, mae fy nyddiau'n mynd heibio fel mwg.
17Beth ydy person dynol, i ti boeni amdano,
a rhoi cymaint o sylw iddo?
18Ti'n ei archwilio bob bore,
ac yn ei brofi bob munud.
19Wyt ti byth yn mynd i edrych i ffwrdd?
Rho gyfle i mi lyncu fy mhoeryn!
20Os dw i wedi pechu, beth dw i wedi ei wneud i ti,
ti Wyliwr pobl?
Pam dewis fi yn darged?
Ydw i wedi troi'n gymaint o faich i ti?
21Pam wnei di ddim maddau i mi am droseddu,
a chael gwared â'm pechod?
Achos bydda i'n gorwedd yn farw cyn pen dim;
byddi'n edrych amdana i, ond bydda i wedi mynd.”
Copyright information for CYM